CYMRAEG

WELSH

EGLWYS Y GROG SANCTAIDD


Mae “Rude” neu “Rood”, sydd yn rhan o enw Saesneg yr Eglwys, yn hen air Saesneg sy’n dynodi Crog y Croeshoeliad.

Sefydlwyd yr Eglwys gyntaf ar y safle hwn gan y Brenin David I yn 1129, ond fe’i dinistriwyd gan dân yn 1406. Yn fuan wedyn rhoddwyd cymhorthdal gan Arglwydd Siamberlen yr Alban i godi eglwys newydd.. Cwblhawyd corff yr Eglwys, yr eil ddeheuol a’r tŵr tua 1414. Y mae golwg y rhan hon o’r Eglwys, gyda’i phileri Scotaidd crwn, ei bwâu Gothig a’i tho gwreiddiol o bren derw, yn debyg iawn, ar ôl llawer o newidiadau, i’r hyn ydoedd pan adeiladwyd hi..

Gan nad oedd yr Eglwys yn ddigon mawr i’r gynulleidfa, adeiladwyd y gangell, sef y rhan ddwyreiniol, rhwng 1507 a 1546 gan grefftwyr lleol, o dan arweiniad ysbrydoledig John Coutts, Pen Saer Maen.

Yn 1656, ar ôl cweryl rhwng dau weinidog yr Eglwys a’u dilynwyr, trefnodd Cyngor y Dref godi pared lle mae’r groesffordd bresennol. Felly ffurfiwyd dwy ofalaeth, yr Eglwys Ddwyreiniol a’r Eglwys Orllewinol, pob un â’i gweinidog ei hun. Parhaodd y sefyllfa hon hyd at 1935, pan unwyd y ddwy gynulleidfa o dan un gweinidog.

Dilynwyd hyn gan yr adnewyddu mawr yn ystod y blynyddoedd 1936-40. Tynwyd y gwahanfur i lawr, estynnwyd y ddwy ale groes fer, adeiladwyd to asennog y groesffordd, codwyd lloriau’r côr a’r gangell, a chrewyd Festrioedd a Thŷ Sesiwn o dan lawr y Côr.

Rhwng 1965 a 1968 ymgymerwyd ag adferiad ychwanegol. ‘Roedd hwn yn cynnwys adnewyddu rhwychwaith carreg amryw o’r ffenestri, gosod cerrig newydd yn lle nifer a ddirywiodd, ail-bwyntio’r cyfan o’r gwaith carreg, ac adnewyddu’r system wresogi. Yn 1970 aildoddwyd ac ailgrogwyd y “carillon” o chwech o glychau yn y tŵr. Gellir canu’r rhain yn awr naill ai â llaw neu yn fecanyddol. Rhwng 1987 a 1993 ymgymerwyd ag adnewyddiad mawr a gostiodd £1,250,000.

Addolodd Mary, Brenhines yr Albanwyr, yn yr Eglwys hon. Pregethodd John Knox yma. Coronwyd baban Mary, James VI yn yr Alban, a ddaeth yn James I yn Lloegr yn 1603 ar ôl i’r Frenhines Elisabeth farw, yma ar 29 Gorffennaf 1567. Felly yr Eglwys hon yw’r unig un ym Mhrydain, o’r rhai a ddefnyddir yn gyson ar gyfer addoliad, ar wahân i Abaty Westminster yn Llundain, lle y bu coroni brenhinol.

GADEWCH HWN YN YR EGLWYS OS GWELWCH YN DDA

www.holyrude.org